Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022
Pwynt Craffu Technegol: Ymateb
Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r pwynt adrodd. Nid ydym o’r farn y bydd pobl yn cael eu camarwain a chredwn y bydd y cyfeiriad at “Ddeddf 1996” yn cael ei ddarllen fel cyfeiriad at Ddeddf Addysg 1996, y cyfeirir ati yn llawn yn y diffiniad o “disgybl” yn y Rheoliadau. Byddwn yn cywiro’r diffiniad o “plentyn” er mwyn rhoi cyfeiriad at “Ddeddf Addysg 1996” yn lle’r cyfeiriad at “Ddeddf 1996” ar y cyfle cyntaf posibl.
Pwynt Craffu ar Rinweddau: Ymateb
Ymdrinnir â chychwyn darpariaethau yn Neddf 2021 fesul cam mewn nifer o orchmynion cychwyn yn y ffordd arferol. Bwriad y diwygiad a wneir gan y Rheoliadau yw galluogi hynny i ddigwydd o ystyried y cychwynnwyd Atodlen 2 gan adran 84(1) o Ddeddf 2021 drannoeth y Cydsyniad Brenhinol.